Mynd i'r cynnwys

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal digwyddiad rhwydweithio cyntaf llwyddiannus i ddarparwyr gwasanaeth

Fe gynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio ei ddigwyddiad rhwydweithio cyntaf ar gyfer darparwyr gwasanaeth ddydd Mawrth Ionawr 16, gan wahodd dros 20 o ddarparwyr gwasanaeth lleol i rannu gwybodaeth, mewn ymdrech i greu ymagwedd fwy cydlynol i symleiddio mynediad i’r gefnogaeth sydd ar gael trigolion yn ymwneud â chyflogaeth a sgiliau.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Nghlwb Ieuenctid Y Rhyl a galluogodd nifer o ddarparwyr gwasanaeth allweddol yn Sir Ddinbych a thu hwnt i ddod i ddysgu mwy am fusnesau ei gilydd, yn ogystal â gwasanaethau allweddol Sir Ddinbych yn Gweithio gan gynnwys Dechrau Gweithio, Barod a’u rhaglen gefnogaeth un i un yn ogystal â’r hyfforddiant rhad ac am ddim sydd ar gael.

Fe ysbrydolodd y digwyddiad ymgysylltu sgyrsiau ar y cyd rhwng staff o Gyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru, Shelter Cymru, Gofalwn Cymru, Blossom & Bloom a darparwyr gwasanaethau allweddol eraill, nifer ohonynt wedi eu lleoli yn bennaf yn Sir Ddinbych.

Hefyd fe fu’r digwyddiad o gymorth i ddangos sut y gall Sir Ddinbych yn Gweithio gefnogi darparwyr gwasanaeth ymhellach gyda’r heriau maent yn eu hwynebu y tu allan i’w cylch gwaith i gynnig ymagwedd ehangach a mwy cyfannol.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

“Rydym yn gwneud ymdrech ymwybodol i gyfathrebu’n rheolaidd gyda’n partneriaid mewnol ac allanol ynglŷn â’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i breswylwyr y maent eisoes yn siarad â nhw, fodd bynnag fe agorodd y digwyddiad hwn sgwrs ehangach.

“Wrth drafod ein prosiectau’n fanwl fe wnaethom gysylltiadau â phrosiectau yn ogystal gan ein galluogi ni i lenwi’r bylchau a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i breswylwyr.”

Yn bresennol yn y digwyddiad roedd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd a dywedodd:

“Rwy’n falch o weld fod y digwyddiad cyntaf hwn ar y cyd wedi bod mor llwyddiannus.

Mae gweithio ar y cyd yn hynod o bwysig ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu busnesau lleol i ddod i adnabod ei gilydd a darganfod sut y gallant estyn llaw i’w gilydd.”

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth cyflogadwyedd sy’n ceisio cefnogi trigolion Sir Ddinbych, 16 oed a hŷn, sydd mewn tlodi neu mewn risg o dlodi. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspx