Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-Ddisgrifiad
Cyflogwr: | Fixed 365 |
Teitl Lleoliad: | Cynorthwy-ydd Plymer |
Lleoliad | Uned 14, Parc Busnes HTM, Ffordd Abergele, Rhuddlan, y Rhyl LL18 5UZ |
Hyd y Lleoliad: | 8 wythnos |
Oriau Gwaith: | 25 awr yr wythnos |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 06/05/2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 09/05/2025 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Peter ar 07920267014 i gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith. |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae Cynorthwy-ydd Plymer yn cynorthwyo plymwyr cymwys i osod, cynnal a chadw a thrwsio systemau dŵr, gwres a draenio. Maent yn gwneud pethau fel paratoi’r offer, deunyddiau a’r ardal waith, wrth ddysgu am y grefft trwy wylio a chynorthwyo’r plymer. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Cynorthwyo Plymwyr: Darparu cymorth i blymwyr ar brosiectau plymio, gan gynnwys gosod, trwsio a chynnal a chadw systemau. Paratoi’r Ardal Waith: Sicrhau bod safle’r gwaith yn ddiogel, yn drefnus ac yn barod i’r plymer weithio yno. Rheoli Offer a Deunyddiau: Paratoi, trefnu a chario offer a deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer y gwaith plymio. Dilyn Cyfarwyddiadau: Dilyn cyfarwyddiadau mae’r plymer yn eu rhoi a chadw at brotocolau diogelwch. Dysgu’r Grefft: Magu profiad a gwybodaeth ymarferol o dechnegau ac arferion plymio trwy weithio gyda phlymer cymwys. Gallai gynnwys: Diagnosio gwendidau a gosodiadau plymio bach, archwilio a glanhau tanciau dŵr, a chynorthwyo â gwaith trwsio a chynnal a chadw cyffredinol plymio. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Rhinweddau’r Ymgeisydd Delfrydol: Rhaid bod â diddordeb mewn plymio a bod yn barod i weithio i ennill cymhwyster. | |
Amodau Gwaith Arbennig | |
Bydd llawer o’r gwaith yng nghartrefi cwsmeriaid. |