Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-Ddisgrifiad
Cyflogwr: | Caffi Cathod Ga Tito |
Teitl Lleoliad: | Cynorthwy-ydd Caffi Cathod |
Lleoliad: | Ga Tito, Russel Road, Rhyl |
Hyd y Lleoliad: | 8 wythnos |
Oriau Gwaith: | 25 awr yr wythnos |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 02/05/2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 07/05/2025 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Peter ar 07920267014 is gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith. |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae diwrnod arferol yng nghaffi cathod Ga Tito yn golygu gofalu am gathod, darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid, a sicrhau amgylchedd diogel a phleserus i gathod ac ymwelwyr, tra’n cynorthwyo â dyletswyddau’r caffi megis paratoi diodydd neu lanhau. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Mae’r dyletswyddau’n cynnwys: Gofal dyddiol: Glanhau blychau baw cathod (litter box), bwydo a rhoi dŵr i gathod, sicrhau eu lles a’u bod yn gyfforddus. Arsylwi a Rhyngweithio: Monitro ymddygiad cathod, darparu gweithgareddau cyfoethogi, a rhyngweithio gyda’r cathod i sicrhau eu bod yn hapus ac yn iach. Cefnogaeth Fabwysiadu: Cynorthwyo darpar fabwysiadwyr gyda chwestiynau a gwybodaeth am y cathod, a’u paratoi ar gyfer y broses fabwysiadu. Gwasanaeth i Gwsmeriaid: Cyfarch a Chynorthwyo Cwsmeriaid: Rhoi croeso cynnes a chynorthwyo cwsmeriaid gyda’u hanghenion, boed hynny’n archebu diodydd, dod o hyd i sedd gyfforddus, neu ddysgu am y cathod. Sicrhau Amgylchedd Diogel: Goruchwylio rhyngweithiau rhwng cwsmeriaid a chathod er mwyn sicrhau diogelwch ac atal damweiniau i’r anifeiliaid. Delio ag Ymholiadau Cwsmeriaid: Ateb cwestiynau am y cathod, y caffi a’r broses fabwysiadu. Gweithrediadau Caffi: Paratoi Diodydd: Gwneud coffi, te a diodydd eraill i gwsmeriaid. Glanhau a Chynnal a Chadw: Cynnal amgylchedd glân a thaclus yn cynnwys glanhau byrddau, lloriau a thoiledau. Stocio’r Cyflenwadau: Cadw stoc ar y silffoedd gyda chynnyrch angenrheidiol i gwsmeriaid. Delio ag arian: Cynorthwyo ar y til, os yn briodol. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Nodweddion yr Ymgeisydd Delfrydol: Brwdfrydedd am Anifeiliaid: Wir yn caru cathod a pharodrwydd i ofalu amdanynt. Sgiliau Gwasanaeth i Gwsmeriaid: Cyfeillgar, agos atoch a gallu rhyngweithio’n gadarnhaol gyda chwsmeriaid. Cyfrifoldeb a Menter: Dangos blaengaredd i sicrhau bod y caffi’n rhedeg yn esmwyth a bod y cathod yn cael gofal. Gallu delio â Straen: Peidio â chynhyrfu mewn amgylchedd prysur. Deall Lletygarwch: Yn gyfarwydd ag egwyddorion lletygarwch a gwasanaeth i gwsmeriaid. | |
Amodau Gwaith Arbennig | |
Gweithio’n bennaf gyda chathod. |