Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-Ddisgrifiad
Cyflogwr: | TG WILLIAMS Builders |
Teitl Lleoliad: | Labrwr Cyffredinol |
Cyfeiriadau | 1Os yn bosibl |
Hyd y Lleoliad: | 8 wythnos |
Oriau Gwaith: | 25 awr i’w gyhoeddi |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 06/05/2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 08/05/2025 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w drefnu |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Pauline ar 07442 939087 i gael sgwrs am y lleoliad a’r manylion. |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae T G Williams Builders Ltd yn gwmni adeiladu mawr ei barch a hir-sefydledig sydd wedi ei leoli yn Llanelwy. Rydym yn gweithio ar draws ystod eang o brosiectau, o waith adeiladu masnachol i waith adfer ac ailwampio treftadaeth. Gyda ffocws cryf ar ansawdd, gwaith tîm a datblygiad proffesiynol, rydym ni’n cynnig amgylchedd gwych i’r rheini sydd eisiau profiad go iawn yn y diwydiant adeiladu. Trosolwg o’r lleoliad: Rydym ni’n cynnig lleoliad gwaith cyffrous am 8 wythnos i unigolion llawn cymhelliant sydd awydd dilyn gyrfa ym maes adeiladu. Fel gweithiwr cyffredinol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol ac yn cael profiad gwerthfawr, ymarferol mewn amrywiaeth o weithgareddau adeiladu. Dyma gyfle gwych i ddatblygu sgiliau ymarferol, dysgu mwy am y diwydiant, a chyfrannu at brosiectau mewn amgylchedd cefnogol. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Beth fyddwch chi’n ei wneud: Gosod a Pharatoi Safle: Helpu i baratoi safleoedd adeiladu ar gyfer gweithgareddau dyddiol. Trin deunyddiau: Cynorthwyo i symud a storio offer a deunyddiau adeiladu yn ddiogel. Cynnal a Chadw y Safle: Cadw’r safle’n lân, yn drefnus ac yn rhydd rhag peryglon. Cefnogi Crefftwyr: Rhoi cymorth i weithwyr medrus a dysgu o’u harbenigedd. Iechyd a Diogelwch: Dilyn canllawiau diogelwch i gynnal amgylchedd gweithio diogel i bawb. Beth fyddwch chi’n ei ddysgu: Profiad ymarferol ar safleoedd adeiladu Cipolwg ar feysydd gwahanol o waith adeiladu Cefnogaeth gan grefftwyr a rheolwyr safle profiadol Dealltwriaeth o weithdrefnau iechyd a diogelwch ar y safle Gwella sgiliau cyflogadwyedd a gwaith tîm | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Gonest, dibynadwy, prydlon, yn barod i weithio mewn tîm. Byddai profiad blaenorol fel labrwr neu weithiwr tir yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol. Rydym ni’n gweithio ar draws Sir Ddinbych ond fe fydd y gwaith yma wedi’i leoli yng nghanol tref y Rhyl dros 3 diwrnod yr wythnos am 8 wythnos. | |
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol | |
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Cerdyn CSCS yn ddymunol |