Dim ond preswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
SWYDD DDISGRIFIAD
Cyflogwr: | Gwasanaethau Addysg a Phlant – Tîm Cefnogi Busnes |
Teitl y Lleoliad Gwaith: | Swyddog Gweinyddol – Lefel 2 |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | 2 |
Hyd y Lleoliad: | 8 wythnos |
Oriau Gwaith: | 16-25 awr yr wythnos |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 2.5.25 |
Dyddiad Rhagsgrinio: | 7.5.25 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i Ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Fiona ar 07468743969 |
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio | |
O dan gyfarwyddyd/arweiniad staff uwch: darparu cefnogaeth weinyddol ac ariannol cyffredinol i’r adran/gwasanaeth | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Darparu cymorth clercyddol, er enghraifft, llungopïo, ffeilio, e-bostio a llenwi ffurflenni cyffredin; Cynnal cofnodion papur a chyfrifiadurol a systemau rheoli gwybodaeth, gan ddilyn cyfarwyddiadau, fel sy’n briodol i’w lefel a’u profiad a graddfa tasg y gronfa ddata cleientiaid, Copideipio a gairbrosesu dogfennau arferol a chyflawni tasgau TG eraill dan oruchwyliaeth; Trefnu a dosbarthu post; Mynd i gyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan yn ôl yr angen; Helpu i gynnal cyflenwadau deunydd swyddfa a chadw’r ystafell stoc yn daclus; Trefnu cyfarfodydd (yn cynnwys archebu ystafelloedd, gwneud trefniadau teithio/llety ac ati) a chymryd nodiadau cyfarfodydd yn ôl yr angen; Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu a datblygu perfformiad eraill yn ôl y gofyn; Llenwi dros gydweithwyr ar raddau tebyg yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch neu ddigwyddiadau annisgwyl eraill; Ymgymryd â dyletswyddau perthnasol eraill fel y cytunwyd gan y Rheolwr Atebol | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Gwaith clercio/gweinyddol cyffredinol. Cynefino/sgiliau sylfaenol. Sgiliau rhifedd/llythrennedd da Dealltwriaeth dda o dechnoleg berthnasol a’r gallu i’w defnyddio, er enghraifft, llungopïwr. Sgiliau cyfrifiadurol/bysellfwrdd. Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi Gweithio’n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau pawb a’ch rhan chi o fewn hynny. Sicrhau cyfrinachedd a diplomyddiaeth fel sy’n briodol | |
Amodau Gwaith Arbennig | |
Mewn swyddfa. |