Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-ddisgrifiad
Cyflogwr: | Leader Optec |
Teitl Lleoliad: | Gweithiwr Cynhyrchu dan Hyfforddiant |
Hyd y Lleoliad: | 8 wythnos |
Oriau Gwaith: | Leader Optec Uned 15 Lite Linke Buildings Parc Busnes Llanelwy Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0LJ |
Cyflog: | 25 awr yr wythnos |
Dyddiad Cau: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad cyn sgrinio: | 24/04/2025 |
Dyddiad Cyfweliad: | 30/04/2025 |
Sut i ymgeisio: | I’w gadarnhau |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol dan Hyfforddiant i ymuno â’n tîm. Mae’r swydd hon yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ennill profiad ymarferol mewn gweinyddiaeth swyddfa, datblygu sgiliau gweinyddol, a thyfu o fewn y sefydliad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi gweithgareddau dyddiol y swyddfa, gan sicrhau effeithiolrwydd a chywirdeb mewn tasgau gweinyddol. | |
Mae Rheilffordd LIangollen yn rheilffordd dreftadaeth sy’n rhedeg rhwng LIangollen yn dilyn Afon Dyfrdwy trwy ddyffryn Dyfrdwy am 10 milltir i Gorwen. | |
Cyfrifoldebau Allweddol: Darparu cefnogaeth weinyddol i dimau’r swyddfa, gan gynnwys Gwerthu, Cynllunio a Gweithrediadau. Cynorthwyo wrth ymateb i negeseuon e-bost, galwadau ffôn a gohebiaeth. Cynnal a threfnu ffeiliau, cofnodion a dogfennau (digidol a phapur). Cefnogi gyda mewnbynnu data, paratoi dogfennau, a llunio adroddiadau. Cynorthwyo gyda threfnu cyfarfodydd, penodiadau a threfniadau teithio. Rheoli offer swyddfa a gwneud archebion pan fo’r angen. Cyfarch ymwelwyr a darparu cymorth pan fo angen. Cefnogi’r adran AD, cyllid, ac adrannau eraill gyda thasgau gweinyddol. Dysgu a defnyddio meddalwedd a systemau swyddfa’n effeithiol. Dilyn polisïau’r cwmni a sicrhau cyfrinachedd wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Sgiliau a Gofynion Allweddol: Nid oes angen profiad blaenorol; rhoddir hyfforddiant. Sgiliau trefniadol ac amldasgio cryf. Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar. Gwybodaeth sylfaenol o Microsoft Office (Word, Excel, Outlook) a Google Suite. Parodrwydd i ddysgu ac addasu i dasgau newydd. Cywirdeb ac yn rhoi sylw i fanylion Gallu gweithio fel rhan o dîm ac ar eich liwt eich hun pan fo’r angen. |