Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Darparwr Gofal Dementia dan Hyfforddiant – Dynbych

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio

Swydd-ddisgrifiad

Cyflogwr:Dwylo Diogel / Safe Hands
Teitl y Lleoliad Gwaith:Darparwr Gofal Dementia dan Hyfforddiant
Angen Geirdaon:1
Hyd y Lleoliad Gwaith:8 wythnos
Lleoliad:Dwylo Diogel / Safe Hands Neuadd Bentref Trefnant Trefnant Dinbych   Sir Ddinbych LL16 5UG
Oriau Gwaith:25 awr yr wythnos
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:23/04/2025
Dyddiad Cyn Sgrinio:29/04/2025
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i Ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Gari Evans ar 01824706617, i gael sgwrs a rhagor o fanylion am y lleoliad gwaith
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Fel darparwr gofal dementia, byddwch yn gyfrifol am helpu unigolion sy’n byw gyda dementia â’u gweithgareddau dyddiol, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gyfforddus. Bydd eich rôl yn cynnwys deall anghenion a heriau unigryw cleifion dementia a darparu gofal wedi’i bersonoli er mwyn gwella ansawdd eu bywyd.  
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Gofal Personol: Defnyddio’r toiled, gan barchu a chynnal urddas yr unigolyn.   Cymorth Emosiynol: Darparu cwmnïaeth a chymorth emosiynol i unigolion sy’n byw gyda dementia, cymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon, therapi hel atgofion a gweithgareddau hamdden, er mwyn ysgogi hwyliau a gweithrediad gwybyddol.   Monitro Diogelwch: Sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer yr unigolyn drwy nodi peryglon posibl a chyflwyno mesurau ataliol, fel cael gwared ar beryglon baglu a sicrhau bod gwrthrychau miniog yn ddiogel.   Cymorth Symudedd:  Helpu gyda gweithgareddau trosglwyddo a symudedd, gan ddefnyddio dyfeisiau cynorthwyol ac ystumiau corff cywir er mwyn atal codymau ac anafiadau.   Cyfathrebu: Cyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau’r teulu a rheolwyr/staff. Cofnod ysgrifenedig ar ddiwedd y dydd.   Dogfennau: Cadw cofnodion cywir ynghylch y gofal a ddarperir, gan gynnwys gweithgareddau dyddiol, newid mewn ymddygiad neu gyflwr, ac unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol, a thrafod gyda rheolwyr/staff.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Empathi ac Amynedd: Gallu amlwg i ddangos empathi tuag at unigolion sy’n byw gyda dementia a bod yn amyneddgar a chadw pwyll mewn sefyllfaoedd heriol.   Sgiliau Cyfathrebu: Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer rhyngweithio’n effeithiol ag unigolion sy’n byw gyda dementia ac aelodau’r teulu.   Profiad: Mae profiad blaenorol o weithio ag unigolion sy’n byw gyda dementia neu mewn rôl darparu gofal yn ddymunol, yn ogystal â gwybodaeth am dechnegau ac arferion gorau gofal dementia. Darperir hyfforddiant ar gyfer y swydd hon.   Tystysgrifau: Efallai y bydd angen cwblhau cyrsiau neu raglenni hyfforddiant gofal dementia.   Stamina Corfforol:  Gallu codi a chynorthwyo â symudedd unigolion, sydd o bosib ag anawsterau o ran cryfder a symudedd.   Dibynadwyedd: Gallu ymddiried ynoch chi, ac ymrwymiad i ddarparu gofal cyson a dibynadwy i unigolion sy’n byw gyda dementia.    
Amodau Gwaith Arbennig
  Menig a Ffedog  
Gwiriadau Cyflogaeth/Gofynion Penodol
Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd