Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Tai Sir Ddinbych

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio

Swydd-ddisgrifiad

Cyflogwr:Cyngor Sir Ddinbych
Teitl y Lleoliad Gwaith:Tai Sir Ddinbych
Hyd y Lleoliad Gwaith:8 wythnos
Lleoliad:Ledled y Sir
Oriau Gwaith:25 (8:30 – 4:30, 4 diwrnod yr wythnos)
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Dyddiad Cyn Sgrinio:16 Ebrill 2025
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i Ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Debbie ar 07833 388028 i gael sgwrs am y lleoliad gwaith. 
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Profiad gwaith gyda’r tîm Cynnal a Chadw Tai fel trydanydd o fewn y Sefydliad Llafur Uniongyrchol. Mae’r gallu i yrru yn hanfodol. Gweithio ochr yn ochr gyda chrefftwyr i helpu gyda’r dyletswyddau dyddiol. Gwybodaeth sylfaenol am iechyd a diogelwch. Gallu dilyn cyfarwyddiadau.  
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Helpu crefftwyr gyda thasgau cynnal a chadw dyddiol, trydanwyr yn bennaf ond byddwch hefyd yn helpu crefftwyr eraill fel seiri a phlymwyr.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Dealltwriaeth sylfaenol o lythrennedd a rhifedd  Gallu ymgymryd â thasgau corfforol e.e. codi eitemau trwm (gyda hyfforddiant priodol) o natur ymarferol ar sail barhaus rhesymolYmwybyddiaeth sylfaenol berthnasol o Iechyd a DiogelwchGallu gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd a gydag amlygiad i amodau anffafriol eraill e.e. baw, sŵnRhaid meddu ar drwydded yrru lawnGallu cyfathrebu gyda chwsmeriaid   
Amodau Gwaith Arbennig
Gweithio mewn eiddo gyda thenantiaid