Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Kite Surf cafe – Cynorthwy-ydd Blaen y Tŷ / Caffi

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.

SWYDD-DDISGRIFIAD

Cyflogwr: Pro Kite Surfing Café / Kite Surf Café
Teitl y Lleoliad Gwaith:Cynorthwy-ydd Blaen y Tŷ / Caffi
Angen Geirdaon:os yn bosibl
Hyd y Lleoliad Gwaith:8 wythnos
Cyfeiriad y Lleoliad:Parêd y Rhyl rhwng y Travel Lodge a Theatr y Rhyl
Oriau Gwaith:2 x 25 awr
Cyflog:Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar Oedran
Dyddiad Cau:4 Ebrill 2025
Dyddiad Cyn Sgrinio:9 Ebrill 2025 (LLYFRGELL Y RHYL)
Dyddiad Cyfweliad:I’w drefnu 
Sut i Ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline ar 07442939087 i gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Rydym yn gaffi a bar sy’n gynyddol boblogaidd ac sy’n frwdfrydig am ddarparu profiadau gwych i gwsmeriaid, ac adeiladu amgylchedd cefnogol sy’n cael ei lywio gan waith tîm. Wrth i ni ehangu, rydym yn chwilio am unigolion ymroddgar a brwdfrydig i ymuno â’n tîm, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eich gyrfa o fewn tîm cyfeillgar a chefnogol.   Trosolwg o’r Swydd Fel Cynorthwy-ydd Blaen y Tŷ a Chaffi, byddwch yn rhan hanfodol o’n tîm, gan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn y lefel uchaf o wasanaeth. Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chwsmeriaid, gan fynd i’r afael ag amrywiaeth o dasgau yn y caffi a’r bar, a chefnogi’r tîm wrth gadw’r gofod gweithio yn lân yn drefnus ac yn ddeniadol.      
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Gwasanaeth i Gwsmeriaid: Cyfarch cwsmeriaid, cymryd archebion, gweini bwyd a diod, a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael profiad pleserus.Defnyddio Til: Prosesu taliadau cwsmeriaid yn gywir, a chymryd taliadau gydag arian parod neu gerdyn.Cynnal hylendid: Sicrhau bod pob ardal yn y caffi a’r bar yn lân, yn daclus ac yn drefnus iawn, gan gynnwys clirio byrddau a dyletswyddau cadw tŷ cyffredinol.Glanhau Trylwyr yn y Gegin: Cefnogi’r tîm drwy gynorthwyo gyda thasgau glanhau trylwyr yn y gegin er mwyn cynnal safonau hylendid uchel.Caglu Gwydrau: Casglu gwydrau a’u clirio o’r byrddau i gadw’r amgylchedd yn daclus.Cwblhau Gwaith Papur: Cynorthwyo gyda chwblhau y gwaith papur gofynnol (rhoddir hyfforddiant). Hyfforddiant a Chefnogaeth: Hyfforddiant a Chyflwyniad Sefydlu Llawn: Rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r til a chynnal tasgau amrywiol.Cefnogaeth Barhaus:  Mae ein Cyfarwyddwr wedi ymrwymo i gefnogi lles a thwf pob aelod o staff. Bydd gennych fynediad i gefnogaeth a chanllawiau drwy gydol eich swydd. Gwaith Tîm:
Mae gwaith tîm wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwch yn rhan o amgylchedd cydweithiol lle mae pawb yn cael eu hannog i gyfrannu, rhannu syniadau a chefnogi ei gilydd i sicrhau bod y caffi a’r bar yn rhedeg yn esmwyth.  
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Agwedd Gadarnhaol: Agwedd ddymunol ac agos atoch, gydag awydd go iawn i gynorthwyo cwsmeriaid, a gweithio fel rhan o dîm.Dibynadwyedd: Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ddibynadwy ac wedi ymrwymo i’r swydd, gyda’r gallu i weithio shifftiau hyblyg.Parodrwydd i Ddysgu: Brwdfrydedd i ddysgu sgiliau newydd a chymryd cyfrifoldebau newydd.Gweithio’n dda mewn tîm: Gallu gweithio’n dda gydag eraill, gan gefnogi cydweithwyr a meithrin amgylchedd gwaith cydweithiol. Pam Ymuno â Ni? Cyfleoedd Dysgu Gwych Enillwch sgiliau newydd yn y maes gwasanaeth i gwsmeriaid, gweithredu til, a thrin bwyd a diod.** bydd cyfleoedd ar gyfer swyddi parhaol ar ôl yr 8 wythnos cychwynnol.Amgylchedd Cefnogol: Mae’r Cyfarwyddwr yn gwerthfawrogi lles staff ac yn sicrhau diwylliant gwaith cadarnhaol a chefnogol, lle mae pawb yn cael eu trin fel aelod o dîm, nid gweithiwr yn unig.Twf Cyffrous: Wrth i’r cwmni ehangu, byddwch yn rhan o weithle deinamig ac esblygol gyda chyfleoedd i dyfu ar y cyd gyda’r busnes.