Dim ond preswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-Ddisgrifiad
Cyflogwr: | GUILDHALL TAVERN, DINBYCH |
Teitl y Lleoliad Gwaith: | Staff, gweini, a chegin |
Hyd y Lleoliad: | 8 wythnos |
Oriau Gwaith: | 18.5 |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 17/01/2025 |
Dyddiad Rhagsgrinio: | WB 20/01/2025 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i Ymgeisio: | Anfonwch eich CV i: Workstart@sirddinbych.gov.uk |
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio | |
Mae’r Dafarn yn un hanesyddol iawn ac mae’n dyddio yn ôl i 1646. Rydym ni’n westy a bwyty yn Ninbych sy’n cynnig cyfleusterau ardderchog. Mae gennym ni ystafelloedd bwyta ac ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau. Dim ond tair munud o gerdded ydym ni o Gastell Dinbych. Mae gennym ni nosweithiau cerddoriaeth a chinio dydd Sul. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Gweini, cymryd archebion bwyd o’r byrddau, gweithio gyda staff y gegin, gweini bwyd, gweini diodydd wrth y bar a chlirio byrddau. Efallai y gofynnir i staff weithio yn y gegin os oes angen. Mae cadw amser a phresenoldeb yn flaenoriaeth ac mae gweithio mewn tîm yn hanfodol. Rydym ni hefyd yn cynnal digwyddiadau ar gyfer nifer fawr o bobl sydd yn dathlu penblwyddi ac ati. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Gonest, dibynadwy a gweithgar iawn. Yn gallu gweithio mewn tîm. Cadw amser a phresenoldeb da. RHAID BOD YN HYBLYG DRWY’R AMSER A RHOI 100% | |
Amodau Gwaith Arbennig | |
Ein gwisg yw trowsus du, crys neu dop du. |