Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Dyma gyfle ardderchog i weithio i fusnes sydd wedi ei leoli ar odre Bryniau Clwyd yng ngogledd Cymru. Mae Siop y Pentre yn Llanrhaeadr a The Welsh Food Company yn darparu ar gyfer preswylwyr lleol, yn ogystal â llawer iawn o gwsmeriaid sy’n ymwelwyr a chleientiaid ar y we. Mae gennym ddewis ardderchog o gynnyrch Cymreig a lleol, llawer wedi eu gwneud â llaw a’u creu o gynnyrch a dyfwyd gartref. Rydym yn angerddol am rannu’r hyn rydym yn ei gredu yw rhai o’r bwydydd gorau yn y byd.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Trosolwg o’r Swydd: Mae Cynorthwyydd Siop a Phaciwr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth arbennig i gwsmeriaid, cynnal ymddangosiad y siop, ac ymdrin â dyletswyddau yn ymwneud â’r stocrestr a phacio. Mae dyletswyddau’r swydd hon yn cynnwys rhyngweithio â chwsmeriaid, rheoli’r stoc, a sicrhau bod cynnyrch yn cael ei bacio a’i baratoi’n effeithlon ar gyfer ei gyflenwi. Cyfrifoldebau Allweddol:Gwasanaeth i Gwsmeriaid:Cyfarch a chynorthwyo cwsmeriaid mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol.Ateb ymholiadau gan gwsmeriaid a darparu gwybodaeth am gynnyrch.Prosesu trafodiadau yn gywir gan ddefnyddio system man gwerthu.Paratoi BwydParatoi bwyd, e.e. brechdanau poeth ac oerParatoi a phacio cigoedd wedi eu sleisioCynhesu bwydydd Paratoi diodydd poethion Cynnal a Chadw’r Siop:Sicrhau bod y siop yn lân, trefnus ac wedi ei stocio’n dda. Ail-lenwi silffoedd ac arddangosiadau fel bo’r angen. Rheoli’r Stocrestr:Derbyn a gwirio danfoniadau sy’n cyrraedd ar gyfer cywirdeb ac ansawdd.Diweddaru cofnodion y stocrestr a rhoi gwybod am anghysondebau.Cynorthwyo gyda chylchdroi stoc a rheoli dyddiadau dod i ben cynnyrch. Pacio a Danfon:Paratoi a phacio archebion ar gyfer eu danfon neu eu casglu.Sicrhau bod y pacio wedi ei wneud yn effeithlon ac yn ddiogel i atal difrod.Labelu ac anfon pecynnau yn unol â chanllawiau danfoniadau. Cydweithio o fewn y Tîm:Cydweithio gydag aelodau eraill y tîm i gyflawni amcanion y siop.Cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant a datblygu yn ôl y gofyn.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Mae profiad blaenorol mewn swydd fanwerthu neu wasanaeth i gwsmeriaid o fantais, ond nid yw’n hanfodol. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cadarn. Gallu ymgymryd â thasgau corfforol, gan gynnwys codi a symud eitemau. Sgiliau mathemateg sylfaenol a bod yn gyfarwydd ag ymdrin ag arian parod. Sylw i fanylder ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid. Dibynadwy, prydlon a chyfeillgar. Mae medru’r Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Amodau Gwaith Arbennig
Amgylchedd manwerthu a’r posibilrwydd o weithio ar ddydd Sadwrn..Efallai y bydd angen sefyll am gyfnodau hir a chodi eitemau sydd â phwysau cymedrol i drwm.