Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Cymhorthydd Cyfryngau Cymdeithasol – JRM Academy – DINBYCH

Dim ond trigolion di-waith sy’n byw yn Sir Ddinbych ac nid mewn addysg llawn amser all wneud cais.

Swydd-Ddisgrifiad

Cyflogwr:JRM Academy
Teitl y Lleoliad Gwaith:Cymhorthydd Cyfryngau Cymdeithasol
Hyd y Lleoliad Gwaith:8 wythnos
Cyfeiriad y Lleoliad:HWB Dinbych, Ffordd y Ffair, Dinbych
Oriau Gwaith:16
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:9 Ionawr 2025
Dyddiad Cyn Sgrinio:14 Ionawr 2025
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i Ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Peter ar 01824 706447 is gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith.
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r rheolwr stiwdio i greu cynnwys diddorol ar gyfer presenoldeb cyfryngau cymdeithasol JRM Academy, gan gynnwys diweddaru’r sianeli cyfryngau cymdeithasol, canolbwyntio ar y brand, a cheisio ffynonellau cyfryngau cymdeithasol newydd a ffyrdd newydd o gysylltu â chynulleidfaoedd.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rheoli sianeli cyfryngau cymdeithasol y cwmni ar holl lwyfannau perthnasol Ymgysylltu â chreu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol newydd Creu cynnwys ysgrifenedig, graffeg a fideo dynamig Ysgrifennu negeseuon a phenawdau cyfryngau cymdeithasol a diweddaru’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol Creu cynnwys sy’n hyrwyddo rhyngweithio â’r gynulleidfa, cynyddu presenoldeb cynulleidfa ar safleoedd y cwmni ac annog cyfranogiad gan gynulleidfa Cynorthwyo’r rheolwyr cyfryngau cymdeithasol gyda phrosiectau mawr, digwyddiadau a rheolaeth gymunedol Gweithio fel rhan o’r tîm i ddatblygu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol mawr Dadansoddi ac adrodd ar wybodaeth a demograffeg cynulleidfa, a llwyddiannau’r prosiectau cyfryngau cymdeithasol presennol Cynnig syniadau a chysyniadau newydd ar gyfer cynnwys cyfryngau cymdeithasol Rheoli negeseuon cyfryngau cymdeithasol Defnyddio’r llinellau amser a chynnwys wedi’u trefnu er mwyn creu ffynhonnell gyson o gynnwys newydd ar gyfer rhyngweithio â chynulleidfaoedd, wrth ddadansoddi, rheoli ac addasu amserlenni lle bod angen er mwyn cynyddu ymweliadau  
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Creadigol Artistig Diddordeb mewn cerddoriaeth / sain Profiad o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys
Amodau Gwaith Arbennig
Gall gynnwys gweithio oriau anghymdeithasol yn dibynnu ar archebion stiwdio.