Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-Ddisgrifiad
Cyflogwr: | Automark |
Teitl Lleoliad: | Cymorthydd gweinyddol / Ymgynghorydd Gwasanaeth |
Geirdaon Gofynnol | Yes |
Hyd y Lleoliad: | 8 WYTHNOS |
Oriau Gwaith: | 18.5 |
Cyflog: | NMW |
Dyddiad Cau: | 03/01/2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae Automark yn ‘Siop Un Alwad’ ar gyfer anghenion moduro o bob math. Fel Cymhorthydd Gweinyddol Ymgynghorydd Gwasanaeth byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth roi cefnogaeth weinyddol i’r tîm ymgynghorydd gwasanaeth o fewn ein gwasanaeth moduro. Mae’r swydd hon angen cyfuniad o sgiliau trefnu a gallu o ran gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd yr unigolyn yn y swydd hon yn gweithredu fel cyswllt rhwng cwsmeriaid a thechnegwyr gwasanaeth, gan sicrhau cyfathrebu esmwyth ac ymdrin ag apwyntiadau ac ymholiadau gwasanaeth yn effeithlon. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Rhyngweithio â Chwsmeriaid: Cyfarch cwsmeriaid yn gynnes pan fyddant yn cyrraedd a’u cynorthwyo i drefnu apwyntiadau gwasanaeth. Gweithredu fel y prif gyswllt i gwsmeriaid, ymdrin ag ymholiadau, a darparu diweddariadau ar gynnydd gwasanaeth. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch argymhellion gwasanaeth a rhoi gwybodaeth am brisiau iddynt mewn modd clir a phroffesiynol. Ymdrin â chwynion neu bryderon gan gwsmeriaid gydag empathi a cheisio datrys materion yn sydyn ac yn foddhaol. Trefnu a Chydlynu Apwyntiadau: Trefnu apwyntiadau gwasanaeth yn seiliedig ar ddewis y cwsmer a phan fo gwasanaeth ar gael. Cydlynu gyda thechnegwyr gwasanaeth i sicrhau bod tasgau gwasanaeth yn cael eu cwblhau ar amser. Rheoli calendr yr ymgynghorydd gwasanaeth, gan sicrhau bod apwyntiadau a chyfarfodydd yn cael eu trefnu’n effeithlon. Cymorth Gweinyddol: Cynnal cofnodion cywir o apwyntiadau gwasanaeth, gwybodaeth cwsmeriaid, a hanes gwasanaeth cerbydau. Cynorthwyo gyda thasgau rheoli rhestrau, gan gynnwys archebu a chadw rhannau a chyflenwadau moduro. Cyfathrebu a Chamau Dilynol Cyfathrebu gyda chwsmeriaid dros y ffôn, e-bost, neu wyneb yn wyneb i roi diweddariad ar gynnydd y gwasanaeth ac ymdrin ag unrhyw argymhellion gwasanaeth ychwanegol. Cysylltu â chwsmeriaid ar ôl apwyntiadau gwasanaeth i sicrhau boddhad ac ymdrin ag unrhyw anghenion neu bryderon pellach. Cydweithio â’r tîm i symleiddio cyfathrebu a gwella profiadau gwasanaeth cwsmer. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Addysg ysgol uwchradd; addysg ychwanegol neu dystysgrif mewn technoleg moduro neu weinyddiaeth yn fanteisiol. Profiad o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid Sgiliau cyfathrebu cryf, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn gallu rhyngweithio’n effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr. Sgiliau trefnu ardderchog a sylw i fanylder, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau yr un pryd. Hyfedredd mewn rhaglenni cyfrifiadurol, gan gynnwys MS Office. Gallu gweithio mewn amgylchedd prysur ac aros yn bwyllog o dan bwysau. Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog a datrys materion cwsmeriaid mewn modd amserol a phroffesiynol. | |
Amodau Gwaith Arbennig | |
Hyfforddiant pan fo angen |