Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Cydlynydd Marchnata ac E-fasnach – The Welsh Food Company

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.

Swydd-ddisgrifiad

Cyflogwr: The Welsh Food Company
Teitl Lleoliad:Cydlynydd Marchnata ac E-fasnach  
Hyd y Lleoliad:8 WYTHNOS
Oriau Gwaith:18.5  YR WYTHNOS (i’w drafod)
Cyflog:Lleoliad heb Gyflog 
Dyddiad Cau:03/01/2025
Dyddiad cyn sgrinio:08/01/2025
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Cyfle ardderchog i weithio i fusnes a leolir ar droed Bryniau Clwyd yn harddwch Gogledd Cymru, ni yw The Welsh Food Company!  Mae gennym ystod eang o gynnyrch Cymreig a lleol, llawer wedi eu gwneud â llaw a’u creu o gynnyrch a dyfwyd gartref. Rydym yn angerddol am rannu’r hyn rydym yn gredu yw rhai o’r bwyd gorau yn y byd.   The Welsh Food Company – busnes ar y rhyngrwyd sy’n gwerthu cynnyrch bwyd ac anrhegion Cymreig o ansawdd.  
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rydym yn dymuno penodi Cydlynydd Marchnata ac E-fasnach dynamig a rhyngweithiol i ymuno â’n tîm.   Yn y rôl hon byddwch yn gyfrifol am yrru busnes newydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol a mentrau SEO, rheoli prosesu a phacio archebion a diweddaru ein gwefan i sicrhau profiad siopa ar-lein di-dor i’n cwsmeriaid.   Cyfrifoldebau: Cyfryngau Cymdeithasol ac SEO: Datblygu a gweithredu strategaethau cyfryngau cymdeithasol i gymell ymwybyddiaeth brand, ymgysylltu a thraffig. Creu cynnwys cymhellol ar gyfer amrywiol blatfformau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i Instagram, Facebook, Twitter a LinkedIn. Monitro a dadansoddi metrig perfformiad cyfryngau cymdeithasol, gwneud addasiadau fel bo’r angen i wella canlyniadau.  Gweithredu arferion gorau SEO i wella golwg gwefan a safleoedd ar dudalennau canlyniad peiriannau chwilio.   Prosesu a Phacio Archebion: Prosesu archebion sy’n dod i mewn yn brydlon ac yn gywir, gan sicrhau boddhad cwsmer a chludo amserol. Cydlynu gyda thîm y warws i gwblhau archebion a chynnal lefelau rhestr eiddo. Pacio a chludo archebion yn ddiogel, yn dilyn canllawiau pacio pwrpasol a gweithdrefnau cludo. Delio gydag ymholiadau cwsmeriaid a datrys materion sy’n ymwneud ag archebion, cludo ac argaeledd cynnyrch.   Rheoli gwefan:   Diweddaru rhestrau cynnyrch, disgrifiadau a delweddau ar y wefan i adlewyrchu rhestr eiddo presennol a hyrwyddiadau.  Monitro perfformiad gwefan a phrofiad defnyddwyr, nodi meysydd ar gyfer gwella a gweithredu gwelliannau. Sicrhau bod cynnwys gwefan yn gywir, wedi’i ddiweddaru a’i alinio gyda chanllawiau brand.  
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Profiad mewn Marchnata, E-fasnachu neu faes cysylltiol.  Profiad o reoli cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Dealltwriaeth o egwyddorion SEO ac arferion gorau. Yn gallu defnyddio adnoddau rheoli cyfryngau cymdeithasol a phlatfform dadansoddol.  Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gallu amldasgio ac yn hynod drefnus a chanolbwyntio ar fanylion. Gallu gweithio’n annibynnol a chydweithio. Sgiliau TG rhagorol Brwdfrydig Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, hunan-gymhellol. Ethig gwaith da. Prydlon ac yn dda am gadw at amser. Dymunol – Gwybodaeth Google Ads a Google shopping. Dymunol – Profiad o ddatblygu’r we. Cymraeg yn hanfodol.  
Amodau Gwaith Arbennig
  Cyfarpar TGCh
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol
Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd