Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Coatech – RHYL Lloriau masnachol (Mewnol ac Allanol)

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 Swydd-Ddisgrifiad
Cyflogwr: Coatech
Teitl Lleoliad:Lloriau masnachol (Mewnol ac Allanol)  
Hyd y Lleoliad:8 WYTHNOS
Oriau Gwaith:18.5    
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:20/01/2025
Dyddiad cyn sgrinio:24/01/2025
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Fel labrwr safle / gweithiwr cyffredinol bydd gennych swyddogaeth allweddol wrth gefnogi tîm y safle a gwneud amrywiaeth eang o ddyletswyddau megis helpu i osod y safle, trin deunyddiau a sicrhau y cynhelir safonau uchel o iechyd a diogelwch ar y safle.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Helpu i lwytho a dadlwytho’r offer yn ddiogel ar faniau a gosod y safle ar ôl cyrraeddGosod offer, peiriant llifanu â llaw, cymysgwyr etc. Ystyriaeth ofalus o iechyd a diogelwch bob amser ac ar bob cam o’r prosiect Gwirio archebion deunyddiau yn erbyn nodiadau dosbarthu a dweud ynglŷn ag unrhyw ddiffygion neu broblemau Cymysgu a pharatoi deunyddiau ar gyfer y tîm safle a gofalu a sicrhau bod offer y cwmni, offer wedi eu llogi, cerbydau ac yn y blaen yn cael eu cadw’n ddiogelDilyn cyfarwyddiadau gan ddatganiadau dull, asesiadau risg a goruchwyliwr safle  Cynnal lefelau uchel o gyfathrebu ar y safle a gyda rheolwyr Sicrhau eu bod yn gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol bob amserCynrychioli’r cwmni trwy sicrhau agwedd broffesiynol bob amser a bod yn gwrtais tuag at gleientiaid, cydweithwyr a masnachwyr eraill ar y safleCadw’r ardal weithio’n lân ac yn daclus heb unrhyw risgiau i’r tîm ac eraillGlanhau a chynnal offer a chyfarparGlanhau’r safle a gadael y safle’n lân ac yn daclusCynorthwyo gyda chofnodion safle dyddiol, cymryd lluniau etc. Cadw cerbydau’r cwmni’n lân ac yn daclus ac yn barod ar gyfer yr wythnos waith nesafCymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant a thasgau blwch cyfarpar fel bo angen  
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Mae CSCS a gyrru yn hynod ddymunol, fel arall byddem wir yn cael trafferth eu cludo i’r safle. Dylent fod yn ddibynadwy
Amodau Gwaith Arbennig
Yn gweithio ar y safle ac yn y swyddfa/warws yn y Rhyl