Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-ddisgrifiad
Cyflogwr: | CSDd – Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig (CESI) |
Teitl Lleoliad: | Cynorthwy-ydd Gweinyddol |
Geirdaon Gofynnol | Oes |
Hyd y Lleoliad: | 8 WYTHNOS |
Oriau Gwaith: | 18.5 |
Cyflog: | Lleoliad heb Gyflog |
Dyddiad Cau: | 03.01.25 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 08.01.25 |
Dyddiad Cyfweliad: | Wythnos cychwyn 13.01.25 |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae’r swydd hon yn rhan o dîm sy’n caffael, glanhau, storio, gwasanaethu, danfon a gosod offer yn y gymuned, gan gynnwys toiledau, offer codi a chario, cymhorthion ymdrochi, offer nyrsio, ac offer Teleofal / Teleiechyd. Mae’r rôl yn rhoi pwyslais arbennig ar weinyddu cyflenwadau offer, sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw, a chyfathrebu’n dda gydag ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Mae’r tasgau’n cynnwys: Mewnbynnu archebion i’r System Rheoli Offer (Cronfa Ddata). Ateb galwadau ffôn gan Ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag ymholiadau am archebion a danfoniadau. Paratoi/Trefnu danfoniadau. Gwaith papur/Ffeilio. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Sgiliau Allweddol: Hyder wrth ateb galwadau ffôn a siarad â gweithwyr proffesiynol. Dealltwriaeth dda o systemau TG a sgiliau cyfrifiadurol da. Sgiliau trefnu da | |
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol | |
Geirdaon |